Dweud eich dweud: cyfranogiad disgyblion i bawb!
11 Maw 2011Mae Llais Disgyblion Cymru yn lansio cyfres o ddeunyddiau newydd cyffrous yn seiliedig ar y we i annog a chefnogi cyfranogiad disgyblion cynhwysol, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y cyd â 'Cognition Associates'. Datblygwyd y deunyddiau hyn gydag, ac ar gyfer pobl ifanc mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion ac Ysgolion Arbennig ar draws Cymru. Maent yn anelu at annog pob person ifanc i gymryd rhan ac i ennill yr hyder a'r sgiliau angenrheidiol er mwyn cyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd hwyliog ac atyniadol.
Bydd y deunyddiau'n cael eu lansio gan Y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis AC mewn digwyddiad arbennig yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd am 11:00 ar Ddydd Mawrth 29 Mawrth 2011.
Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gofrestru er mwyn ddangos diddordeb ac i archebu lle yn y digwyddiad.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen , a fyddech cystal ag e-bostio'r ffurflen yn ôl at robert.edmunds@wales.gsi.gov.uk erbyn Dydd Mawrth 22 Mawrth 2011.