Bywiogi'r Ifanc

8 Mehef 2010

Yn dilyn llwyddiant ‘Cyfranogi: Sbeisiwch ef i fyny’ a ‘Hawliau Plant: Sbeisiwch nhw i fyny’, fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu Dynamix i gynhyrchu adnodd ategol sydd wedi’i anelu’n benodol at blant o dan 11 oed.

Mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol bod cyfranogiad plant o dan 11 oed yn cyflwyno heriau sy’n wahanol i gyfranogiad pobl ifanc dros 11 oed, yn cynnwys amheuon ymysg oedolion ynglŷn ag a ydynt yn ddigon hen i feddu ar farn. Mae Young Spice yn dadlau eu bod yn ddigon hen, ac y mae yn hytrach yn edrych ar sut i gael y budd mwyaf allan o ymgynghori gyda phlant. Mae hyn yn cynnwys y pwysigrwydd o chwarae a chyfathrebu, sut i ddehongli’u syniadau, ac yn ystyried eu rhychwant canolbwyntio.

Mae adrannau o’r pecyn cymorth yn cynnwys:

  • Gemau ymgynhesu

  • Dulliau adeiladu ymddiriedolaeth

  • Llythrennedd emosiynol a hunan-barch

  • Ymgynghori

  • Osgoi llythrennedd

  • Pypedwaith a chyfranogi

  • Drama a chyfranogi

  • Cerddoriaeth a chyfranogi

  • Parasiwtiau a chyfranogi

  • Newidwyr egni

Nid oes yna gynlluniau ar hyn o bryd i gynhyrchu copïau caled o’r adnodd hwn, ond fe ellir lawrlwytho fersiynau rhad ac am ddim isod.

(Ffynhonnell: E-frîff Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru)