Ymgynghoriad Cymunedol Canolfan Mileniwm Cymru 2010-2011
6 Awst 2010Dy le Di ? Rhannwch Eich Barn Gyda Ni
Canolfan Mileniwm Cymru yw canolfan genedlaethol y celfyddydau yng Nghymru. Mae pobl a chymunedau Cymru’n rhan enfawr o’n dyfodol, felly rydyn ni angen eich help chi i’w lunio. Yn ystod yr hydref a’r gaeaf eleni, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn teithio o amgylch Cymru ac yn dod atoch chi. Mae’r canolfan eisiau i chi rannu’ch barn amdano ac, yn bwysicaf oll, gweithio gydag i greu syniadau a thrafod gwaith ar gyfer y dyfodol a sut y gall gweithio gyda chi a’ch cymunedau. Ac, wrth gwrs, y ffyrdd gorau i gadw mewn cysylltiad.
O fis Medi i fis Tachwedd bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn teithio ledled Gogledd a Gorllewin Cymru (gan ymweld â Chanolbarth a De Cymru rhwng mis Ionawr a Mawrth flwyddyn nesaf) i gynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim, ac mae gwahoddiad cynnes iawn i chi ymuno â nhw.
- 23 Medi yn Y Ganolfan, Porthmadog
- 21 Hydref yn Neuadd y Dref, Llandudno
- 9 Tachwedd yn Arad Goch, Aberystwyth
Bydd y Ganolfan yn cynnal cwpwl o sesiynau bob dydd, rhwng 2pm ac 8pm i roi cyfle i gymaint ohonoch chi â phosibl galw heibio. Cewch gyfle i ddweud eich dweud, siarad ag aelodau staff uwch y Ganolfan a rhoi gwybod iddyn nhw beth sy’n gweithio’n dda gyda’r Ganolfan a beth yr hoffech chi weld nhw’n ei wneud yn y dyfodol, yn eich ardaloedd chi. Bydd grwpiau ffocws penodol i ysgolion a gweithgaredd addysgol hefyd. Bydd yr holl sesiynau yma’n canolbwyntio ar nodi’r cyfleoedd i weithio ar y cyd, a’r ffyrdd gorau o gyflawni’r cyfan gyda’n gilydd.
Yn ogystal â’r cyfle i gyfrannu at siapio rhaglennu yn y dyfodol, bydd celfyddyd am ddim ar gael hefyd, ynghyd â chyfle i ennill pâr o docynnau i weld sioe.
Os hoffech chi fynychu un o’r digwyddiadau anfonwch e-bost at addysg@wmc.org.uk os gwelwch yn dda. Mae croeso cynnes i chi anfon y gwahoddiad yma ymlaen i unrhyw un arall rydych chi’n meddwl byddai â diddordeb.