Hyfforddiant

Rhaglen hyfforddiant

Gall ein cyrsiau ni darparu’r sgiliau sydd eisiau arnoch er mwyn ymgysylltu gyda hyder, ac fe fydd yn gwella ansawdd yr ymrwymiad mai’ch mudiad yn darparu. Rydym yn gynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddatblygu sgiliau mewn ymrwymiad cyhoeddus trwy ein rhaglen o hyfforddiant byr ar ddulliau a sgiliau, o ymgynghori â dinasyddion i werthusiad cyfranogol.

Cliciwch yma i weld y cyrsiau ar gyfer 2010-11

Sut i archebu lle

Os hoffech chi archebu lle yna gallwch:

Bandiau pris: A Aelodau WCVA B Mudiadau gwirfoddol a chymunedol
C Sector cyhoeddus a phreifat

Dyw prisiau ddim yn gynnwys TAW

Hyfforddiant mewnol wedi'i deilwrio

Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ac ymgynghoriaeth pwrpasol sydd yn gynnig dull hyblyg i gwrdd ag anghenion chi a’ch mudiad. Mae ein cyrsiau hyfforddiant yn addas i bobl sydd yn gweithio mewn mudiadau gwasanaethau cyhoeddus sydd eisiau dylunio, datblygu a darparu PCymrwymiad i ddinasyddion a chyfranogaeth gyhoeddus.

Gallwn ddarparu ein cyrsiau i unrhyw rif o gyfranogwyr mewn lleoliad sy’n gweithio i chi. Bydd cwrs nodweddiadol yn rhedeg gyda 6-15 o gyfranogwyr, gyda’r pris y pen yn lleihau wrth i fwy o bobl mynychu. Beth am wahodd partneriaid neu fudiadau arall i gymryd rhan hefyd, adeiladwch berthnasau partneriaeth a gwnewch yn rhatach i bawb?

Fel canllaw, rydym yn codi tâl ar gyfer costau’r hyfforddwr, costau trafaelu a’r cynhyrchiad o daflenni a deunyddiau. Bydd angen i’ch mudiad darparu’r lleoliad a lluniaeth os yw’n berthnasol. Gall yr hyfforddiant cael ei ddarparu yn eich lleoliad chi trwy ddefnyddio cyfleusterau eich mudiad, neu gallwn helpu chi i ffeindio lleoliad addas. Cysylltwch â ni ar gyfer drafodaeth anffurfiol o eich anghenion hyfforddi ar participationcymru@wcva.org.uk neu 029 2043 1725.

Mae detholiad o’n gyrsiau isod, gallwn ddewis a dethol i ddatblygu rhywbeth sy’n cwrdd â’ch anghenion i gyd (cliciwch i weld disgrifiad o’r cwrs).

Amser i bobl ifanc – gyda Timebanking Wales
Caffi’r byd
Cwrs achrededig: Ymgysylltu â’r gymuned a dinasyddion

Cyflwyniad i adrodd straeon mewn sefydliadau
Cyflwyniad i hwyluso
Cyllidebu cyfranogol

Cymryd nodiadau mewn digwyddiadau cyfranogol ac ymgynghoriadau
Cynnal grwpiau ffocws cyfranogol
Dulliau hwyluso grwpiau (ICA)
Dulliau o gynnwys pobl ifanc
E-gyfranogi a rhwydweithio cymdeithasol
Defnyddio data o ddigwyddiadau cyfranogol ac ymgynghoriadau i’r eithaf
Hwyluso drwy ddefnyddio graffeg
Hwyluso uwch
Hyder mewn digwyddiadau cyhoeddus
Sgyrsiau anodd
Ymgysylltu ag unigolion a chymunedau na chlywir eu llais yn aml
Ymgysylltu â’r cyhoedd i’r sector cyhoeddus

Rydym hefyd yn gallu rhedeg cyrsiau ar Chwilio i'r dyfodol; Creu gweledigaeth; Cynllunio prosiectau cyfranogol yn defnyddio Technoleg Gofod Agored; Datganiadau dyluniad pentref; Gwerthusiadau cymunedol; Holiaduron effeithiol; Mapiau plwyf; Rheithgorau Dinasyddion; Technoleg Gofod Agored; ac Ymarferion ymgynghori effeithiol. Cysylltwch â ni os hoffech chi gael gwybodaeth bellach.