Caffi’r byd

Ar y cwrs ymarferol hwn bydd y cyfranogwyr yn sefydlu ac yn rhedeg Caffi Byd. Byddant yn gwerthuso’r dull ac yn archwilio ffyrdd o’i addasu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y cwrs yn adeiladu ar y sgiliau sydd gan y sawl sy’n cymryd rhan yn barod ac yn ymdrin â’r holl broses o gynllunio a chyflwyno hyd at gofnodi a gwerthuso’r data a gynhyrchir.

Hyd 0.5 diwrnod

Cynulleidfa darged Ymarferwyr a hwyluswyr sydd am ddysgu sut mae rhedeg Caffi Byd

Nod dysgu

Cael profiad o Gaffi Byd a dysgu sut mae rhedeg Caffi Byd effeithiol drwy gymryd rhan

Amcanion dysgu

  • Dangos y dull Caffi Byd, gyda’r cyfranogwyr yn rhedeg y digwyddiad
  • Trafod sut mae modd addasu’r dull ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  • Nodi’r sgiliau sy’n ofynnol i hwyluso’r digwyddiad
  • Archwilio beth sy’n gwneud cwestiwn/cwestiynau’n addas ar gyfer digwyddiad Caffi Byd
  • Archwilio pa adnoddau sy’n ofynnol i redeg Caffi Byd
  • Trafod sut mae cofnodi a gwerthuso’r data a gynhyrchir yn ystod y digwyddiad

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Cynllunio a rhedeg digwyddiad Caffi Byd
  • Addasu’r dull i’w maes gwaith nhw i’w wneud yn berthnasol i’w pwrpas a’u cynulleidfa
  • Gosod cwestiynau perthnasol a defnyddiol i’w trafod
  • Nodi’r sgiliau a’r technegau hwyluso sy’n ofynnol
  • Darparu gwybodaeth ddefnyddiol i hwyluswyr
  • Nodi’r adnoddau a’r deunyddiau y bydd eu hangen arnynt i greu Caffi Byd
  • Cofnodi a gwerthuso’r data a gynhyrchir yn ystod y digwyddiad