Ymgysylltu â’r cyhoedd i’r sector cyhoeddus

Diben y cwrs deuddydd cynhwysfawr hwn yw rhoi mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i staff sector cyhoeddus o ennyn diddordeb mewn ffordd gyfranogol. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu am amryw o arfau a chânt gyfle i ymarfer rhai o’r dulliau. Byddant yn meithrin ystod o sgiliau yn ogystal â magu hyder i ymgysylltu â’r gymuned. Bydd y diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer ymgysylltu, y sail resymegol, â phwy i ymgysylltu a sicrhau dilysrwydd wrth ymgynghori. Bydd yr ail ddiwrnod yn edrych ar arfau ymgysylltu ac yn rhoi trosolwg o brosesau ymgynghori, sgiliau hwyluso ac opsiynau newydd gan ddefnyddio technegau cyfranogol.

Hyd 2 ddiwrnod

Cynulleidfa darged

Staff rheng flaen, ymarferwyr a rheolwyr yn y sector cyhoeddus

Nod dysgu

Nod y cwrs yw rhoi i gyfranogwyr y wybodaeth, yr hyder a’r technegau ymarferol i ymgysylltu’n well â’r cyhoedd ac â chymunedau lleol.

Amcanion dysgu

  • Darparu cyflwyniad i egwyddorion ymgysylltu â’r gymuned a chyfranogi
  • Sicrhau mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymgysylltu cyfranogol
  • Archwilio amryw o arfau cyfranogol
  • Darparu’r cyfle i ymarfer rhai dulliau cyfranogol
  • Meithrin sgiliau a hyder i ymgysylltu â’r gymuned
  • Archwilio’r holl broses o ymgysylltu
  • Trafod pam y dylid ymgysylltu ac â phwy
  • Sicrhau bod dilysrwydd yn y broses ymgynghori
  • Archwilio arfau ymgysylltu
  • Cyflwyno trosolwg o brosesau ymgynghori
  • Nodi sgiliau hwyluswyr

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Trafod egwyddorion ymgysylltu â’r gymuned a chyfranogi
  • Nodi’r cyd-destun ar gyfer ymgysylltu cyfranogol
  • Dangos arfau cyfranogol ar gyfer ymgysylltu
  • Trafod yr holl broses o ymgysylltu â’r cyhoedd
  • Gwerthuso’r rhesymau wrth wraidd ymgysylltu, â phwy i ymgysylltu a sut
  • Nodi sgiliau allweddol hwylusydd da