Dulliau o gynnwys pobl ifanc

Sut gallwch chi gynnwys pobl ifanc yn eich prosiect mewn ffordd ystyrlon?

Ydy meddwl am gynnwys pobl ifanc yn gwneud ichi deimlo braidd yn bryderus?

Bydd y cwrs ymarferol a chyfranogol hwn yn hybu’ch hyder a’ch sgiliau wrth geisio ennyn perthynas â phobl ifanc. Bydd y cyfranogwyr yn rhannu amryw o ddulliau cyfranogol i ymgynghori â/cynnwys pobl ifanc, yn archwilio gwerthoedd cyfranogi ystyrlon, ac yn dysgu sgiliau sy’n ymarferol, yn hwyl ac yn drosglwyddadwy.

Hyd 1 diwrnod

Cynulleidfa darged

Ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac sydd am ddatblygu ffyrdd newydd, arloesol o ennyn perthynas â nhw.

Nod dysgu

Caffael amryw o ddulliau cyfranogol ar gyfer cynnwys pobl ifanc.

Amcanion dysgu

  • Rhannu pecyn o ddulliau cyfranogol ar gyfer ymgynghori â/cynnwys pobl ifanc
  • Archwilio gwerthoedd cyfranogi ystyrlon
  • Datblygu sgiliau ymgysylltu ymarferol a throsglwyddadwy

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Defnyddio arfau a thechnegau newydd i ennyn perthynas â phobl ifanc
  • Yn gwybod sut i gymhwyso’r technegau yn eu maes gwaith eu hunain
  • Yn gwybod sut mae addasu’r dulliau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a sefyllfaoedd
  • Yn gwybod ble i gyrchu at adnoddau ychwanegol