Defnyddio data o ddigwyddiadau cyfranogol ac ymgynghoriadau i’r eithaf
16 Chwefror 2011 – Canolfan Cristnogol y Winwydden, Pen-y-bont ar Ogwr
Cost A £125 B £155 C £185
Bydd y cwrs ymarferol hwn yn rhoi’r cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan i ymarfer dadansoddi mathau cynyddol gymhleth o ddata, a gynhyrchir gan ddigwyddiadau go iawn, mewn ffordd gyfranogol. Bydd y cyfranogwyr yn meithrin sgiliau a hyder sylweddol wrth ddadansoddi data ansoddol yn fanwl a deall egwyddorion llunio casgliadau o ddata o’r fath. Byddant yn ymarfer canfod arwyddocâd a llunio casgliadau o’u dadansoddiad, eto mewn ffordd gyfranogol.
Mae’r cwrs hefyd yn adolygu nodweddion grwpiau ffocws a digwyddiadau sy’n cael eu hwyluso ynghyd â’r defnydd o dechnegau cyfranogol, megis gosod mewn trefn yn ôl gradd a phleidleisio, fel opsiynau amgen yn lle canllawiau pwnc yn nhrafodaethau grwpiau ffocws.
Hyd 1 diwrnod
Cynulleidfa darged
Ymarferwyr a hwyluswyr y mae angen iddynt ddadansoddi, dehongli a llunio casgliadau o ddata ansoddol.
Nod dysgu
Rhoi i gyfranogwyr y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i ddadansoddi, dehongli a llunio casgliadau o ddata ansoddol.
Amcanion dysgu
- Adolygu nodweddion grwpiau ffocws a digwyddiadau sy’n cael eu hwyluso drwy ddefnyddio technegau cyfranogol
- Darparu’r cyfle i ymarfer dadansoddi mathau o ddata
- Meithrin sgiliau a hyder i ddadansoddi data ansoddol a meintiol
- Deall egwyddorion llunio casgliadau o ddata o’r fath
- Ymarfer canfod arwyddocâd a llunio casgliadau o’u dadansoddiad
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn gallu:
- Disgrifio nodweddion allweddol grwpiau ffocws a sut a phryd i’w defnyddio
- Nodi technegau cyfranogol i’w defnyddio wrth gasglu gwybodaeth mewn digwyddiadau sy’n cael eu hwyluso
- Ymarfer technegau cyfranogol wrth ddadansoddi data ansoddol o wahanol raddau o gymhlethdod
- Magu sgiliau a hyder wrth ddadansoddi data ansoddol fydd y canlyniad dysgu pwysicaf
- Dod i wybod am rai egwyddorion a fydd yn help i lunio casgliadau o ddadansoddiad o ddata ansoddol