Sut i archebu lle
Os hoffech chi archebu lle ar un o'n cyrsiau hyfforddiant yna gallwch:
Cysylltu â ni ar 029 2043 1757 neu
participationcymru
@wcva.org.uk
Archebu lle ar wefan WCVA
Bandiau pris:
A Aelodau WCVA
B Mudiadau gwirfoddol a chymunedol
C Sector cyhoeddus a phreifat
Cyflwyniad i adrodd straeon mewn sefydliadau
Hyfforddwr: Storyworks
Hyd: 1 diwrnod
Fformat: Cwrs hyfforddi
Mae llawer o sefydliadau’n gweld mantais casglu straeon "go iawn" gan ddefnyddwyr gwasanaethau, staff a gwirfoddolwyr er mwyn helpu i wella cyflenwi gwasanaethau. Mae’r sesiwn hon yn archwilio’r amrywiol fethodolegau a ddefnyddir i gasglu a rhannu straeon ac mae’n cynnig rhai ymarferiadau ymarferol i’ch cael i feddwl am sut y gallech fynd ati i gasglu straeon yn eich gwaith.
Cynulleidfa darged
Rheolwyr a staff rheng flaen sy’n gobeithio defnyddio adrodd straeon i gysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, dinasyddion a chymunedau.
Nod dysgu
I archwilio’r cyfleoedd o ddefnyddio adrodd straeon i rannu profiadau ac i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau.
Amcanion dysgu
- Cyflwyno esiamplau o sut mae mudiadau gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio methodolegau adrodd straeon
- Archwilio sut i hel a rhannu straeon
Canlyniadau dysgu:
Trwy fynychu’r cwrs yma byddwch yn gallu ....
- Trafod amrywiaeth o ffyrdd ble mae straeon go iawn yn cael eu defnyddio ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector
- Egluro methodoleg casglu-straeon a rhannu-straeon
- Disgrifio rhai technegau adrodd straeon sylfaenol