Sut i archebu lle

Os hoffech chi archebu lle ar un o'n cyrsiau hyfforddiant yna gallwch:

Cysylltu â ni ar 029 2043 1757 neu
participationcymru
@wcva.org.uk

Archebu lle ar wefan WCVA

Darlwytho ffurflen gais

Bandiau pris:
A Aelodau WCVA
B Mudiadau gwirfoddol a chymunedol
C Sector cyhoeddus a phreifat

Byw’n Annibynnol mewn modd Ymarferol – Sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol (Cam 1)

Darperir yr hyfforddiant gan:

Disability Wales logo

Cynulleidfa Darged

Pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, tai, addysg a chyflogaeth, trafnidiaeth ac ymarferwyr eraill sy’n gweithio’n agos gyda phobl anabl

Nod dysgu

Rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau perthynas angenrheidiol i ymarferwyr i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau sy’n galluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol

Canlyniadau dysgu:

Bydd y dysgwr yn meithrin dealltwriaeth o’r canlynol:

  • Profiad pobl anabl o’r rhwystrau i Fyw’n Annibynnol
  • Beth mae anabledd yn ei olygu mewn gwirionedd a sut mae hyn yn effeithio ar fywyd unigolion o ddydd i ddydd
  • Beth yw Byw’n Annibynnol a’i gymlethdodau
  • Sut i gyfathrebu â phobl anabl yn effeithiol ac uniaethu hwy

Bydd y dysgwr yn cael gwybodaeth ymarferol o’r canlynol:

  • Hanes a diwylliant pobl anabl
  • Y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu profi at gyfranogi, cymryd rhan a chael eu cynnwys mewn gweithgareddau
  • Deddfwriaethau, hawliau a pholis au presennol o ran anabledd
  • Yr amrywiol fodelau o anabledd a’r cysyniad o Fyw’n Annibynnol

Bydd y dysgwr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Galluogi pobl anabl i gael mwy o bwer a rheolaeth dros eu sefyllfa bersonol
  • Edrych ar arferion presennol a nodi meysydd i’w newid o fewn eu timau a mudiadau eu hunain
  • Nodi newidiadau ymarferol sy’n cefnogi byw’n annibynnol ar gyfer pobl anabl
  • Adeiladu rhwydweithiau o ymarferwyr ar gyfer ymchwil, adnoddau a chefnogaeth parhaus

Camau nesaf:

Cam 2: Y cyfle i fod yn rhan o ddysgu gweithredol yn eich ardal a chefnogi’r broses o’i sefydlu

Cam 3: Byw’n Annibynnol mewn modd Ymarferol Pellach (Cyfleoedd i gael gostyngiad ar gyfer cam 3 os yw cyfranogwyr wedi cwblhau cam 1)