Dulliau hwyluso grwpiau (ICA)

Mae’r cwrs hwn, a gynhelir ar y cyd ag ICA, yn addas i’r rhai sydd am allu hwyluso grwpiau yn fwy hyderus ac effeithiol. Mae’r cwrs yn darparu cyflwyniad strwythuredig i’r dulliau Sgwrs a Ffocws Iddi a Gweithdy Consensws, sy’n sail i’r dull Cynllunio Gweithredu, Cynllunio Strategol Cyfranogol a rhaglenni eraill. Drwy arddangos, cerdded drwyddynt, ac ymarfer, cewch gyfle i ddeall a defnyddio’r naill ddull a’r llall erbyn diwedd y cwrs.

Mae’r dull Sgwrs a Ffocws Iddi yn darparu strwythur ar gyfer cyfathrebu effeithiol sy’n sicrhau bod pawb mewn grwp yn cael cyfle i gymryd rhan. Mae’r dull yn roi ichi syniadau a chasgliadau clir, mae’n ehangu persbectif ac yn galluogi cyfranogwyr i feithrin dealltwriaeth werthfawr o’u profiad nhw a phrofiadau’r bobl eraill yn y grwp. Mae’r dull Gweithdy Consensws yn galluogi hwylusydd i amlygu a chydblethu doethineb pawb yn gonsensws clir ac ymarferol. Mae’r dull yn cynnwys proses bum cam sy’n tywys pobl o gynhyrchu a chasglu syniadau, drwy drefnu’r syniadau hynny’n grwpiau ystyrlon, hyd at ddod i gytundeb ynglyn â’r mater y maent yn ei wynebu a nodi rhai camau nesaf i’w symud ymlaen. Mae’r dull yn cynhyrchu syniadau creadigol, mae’n ymgorffori ffyrdd rhesymegol a greddfol o fynd ati i ddatrys problemau, ac mae’n meithrin ysbryd tîm a chonsensws.

Hyd 2 ddiwrnod

Cynulleidfa darged

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd am allu hwyluso grwpiau yn fwy hyderus ac effeithiol, yn cynnwys arweinwyr tîm a rheolwyr mewn sefydliadau, y rhai sy’n gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allanol, gweithwyr ieuenctid a chymuned a hwyluswyr annibynnol.

Nod dysgu

Nod y cwrs hwn yw darparu arfau a thechnegau i hwyluswyr i hwyluso grwpiau yn fwy hyderus ac effeithiol

Amcanion dysgu

  • Cyflwyno’r dulliau Sgwrs a Ffocws Iddi a Gweithdy Consensws
  • Darparu’r cyfle i gyfranogwyr i ymarfer gan ddefnyddio’r dulliau Sgwrs a Ffocws Iddi a Gweithdy Consensws
  • Adnabod ac archwilio elfennau cyfranogi, creadigrwydd, gwaith tîm a gweithredu
  • Dangos cysylltiadau ag eraill i hyrwyddo cydweithio a chefnogaeth yn y dyfodol wrth ddefnyddio’r dulliau hyn.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd y cyfranogwyr yn gallu:

  • Nodi pryd a sut mae defnyddio’r dulliau Sgwrs a Ffocws Iddi a Gweithdy Consensws
  • Cymhwyso elfennau cyfranogi, creadigrwydd, gwaith tîm a gweithredu i’w gwaith eu hunain
  • Gwybod ble i gyrchu at gymorth ac adnoddau wrth ddefnyddio’r dulliau hyn.