Ymgysylltu ag unigolion a chymunedau na chlywir eu llais yn aml
2 Chwefror 2011 – YMCA, Casnewydd
Cost A £125 B £155 C £185
Bydd y cwrs hwn yn helpu gweithwyr i adnabod y gwahanol bethau sy’n rhwystr rhag cymryd rhan a bydd yn archwilio ac yn rhannu strategaethau gyda gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn lleihau a goresgyn y rhwystrau hyn. Bydd y cwrs yn ddefnyddio dulliau cyfranogol a chynhwysol i ymdrin â materion yn ymwneud ag allgáu a bod yn rhywun nad yw ei lais yn cael ei glywed yn aml; bydd y cyfranogwyr yn edrych ar eu hymarfer eu hunain ac ar ffyrdd posibl iddyn nhw weithio’n fwy effeithiol gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd y cyfranogwyr yn gweithio’n systematig drwy gyfres o faterion i’w galluogi i ddyfeisio eu strategaeth eu hunain i ennyn perthynas â grwpiau anodd eu cyrraedd. Yn gefn i hyn cyflwynir enghreifftiau o ymarfer da ac astudiaethau achos.
Hyd 1 diwrnod
Cynulleidfa darged
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n dymuno gweithio gydag unigolion nad yw eu llais yn cael ei glywed yn aml neu sy’n ‘anodd eu cyrraedd’.
Nod dysgu
Bydd y cwrs hwn yn helpu cyfranogwyr i adnabod y gwahanol bethau sy’n rhwystr rhag cymryd rhan, ac i ddysgu am, archwilio a rhannu strategaethau i leihau’r rhwystrau hyn neu eu goresgyn.
Amcanion dysgu
- Nodi’r rhai nad yw eu llais, ym mhrofiad y cyfranogwyr, yn cael ei glywed yn aml
- Bod â syniadau clir ynglyn â sut i symud ymlaen yn eu maes gwaith eu hunain
- Nodi ffyrdd o ymgysylltu â phobl nad yw eu llais yn cael ei glywed yn aml
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn gallu...
- Deall dull cyfranogol i’w helpu chi i ganfod y grwp pwysicaf nad yw eu llais yn cael ei glywed yn aml y mae angen i chi ymgysylltu gyda
- Canfod rhwystrau pwysig rhag cymryd rhan a brofwyd gan unigolion a chymunedau
- Creu strategaeth i ymgysylltu gyda grwpiau na chlywir eu llais yn aml