Cyflwyniad i adrodd straeon mewn sefydliadau
13 Hydref 2010 - Cartrefi Cymru, Caerdydd
3 Mawrth 2011 – AVOW, Wrecsam
Cost A £125 B £155 C £185
Mae llawer o sefydliadau’n gweld mantais casglu straeon "go iawn" gan ddefnyddwyr gwasanaethau, staff a gwirfoddolwyr er mwyn helpu i wella cyflenwi gwasanaethau. Mae’r sesiwn hon yn archwilio’r amrywiol fethodolegau a ddefnyddir i gasglu a rhannu straeon ac mae’n cynnig rhai ymarferiadau ymarferol i’ch cael i feddwl am sut y gallech fynd ati i gasglu straeon yn eich gwaith.
Hyd 1 diwrnod
Cynulleidfa darged
Rheolwyr a staff rheng flaen sy’n gobeithio defnyddio adrodd straeon i gysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, dinasyddion a chymunedau.
Nod dysgu
I archwilio’r cyfleoedd o ddefnyddio adrodd straeon i rannu profiadau ac i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau.
Amcanion dysgu
- Cyflwyno esiamplau o sut mae mudiadau gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio methodolegau adrodd straeon
- Archwilio sut i hel a rhannu straeon
Canlyniadau dysgu:
Trwy fynychu’r cwrs yma byddwch yn gallu ....
- Trafod amrywiaeth o ffyrdd ble mae straeon go iawn yn cael eu defnyddio ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector
- Egluro methodoleg casglu-straeon a rhannu-straeon
- Disgrifio rhai technegau adrodd straeon sylfaenol