Cyfryngau cymdeithasol uwch ar gyfer e-gyfranogaeth
Dydd Gwener 7 Mehefin 2013 - CAVS, Caerfyrddin
Dydd Gwener 5 Gorffennaf 2013 - Plas Pentwyn, Wrecsam
Cost: A £125 B £155 C £185
Os ydych chi eisoes yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chymunedau a defnyddwyr gwasanaeth, ond yr hoffech wybod sut y mae gwella eich cynnwys a’ch cyrhaeddiad, cael awgrymiadau da a syniadau newydd, yna dyma’r sesiwn i chi!
Hyfforddwr: Rhiannon Davies
Hyd: 1 diwrnod
Fformat: Crws Hyffordi
Y gynulleidfa darged
Mae’r sesiwn hon ar gyfer ymarferwyr sydd eisoes yn defnyddio Twitter, Facebook, YouTube neu flogio i ymgysylltu â’r cyhoedd, ac a hoffai ddysgu sut y mae gwella eu cynnwys a'u cyrhaeddiad.
Nod dysgu
Gwella’r ffordd y mae’r cyfranogwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau ar hyn o bryd.
Amcanion dysgu
- Adolygu cyfryngau cymdeithasol / gwe 2.0
- Cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn eich cynllun cyfathrebu ac amserlen ddelfrydol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
- Lliniaru risgiau defnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn strategol – gwneud y cysylltiadau cywir
- Technegau uwch – defnyddio rhaglenni ‘apps’ rheoli
- Gwneud y defnydd gorau o Twitter
- Gwneud y defnydd gorau o Facebook
- Defnyddio Linkedln yn effeithiol
- Blogio fel rhywun proffesiynol
- Rhywfaint o hwyl (llwyfannau ac offer newydd cyffrous)
Deilliannau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Trafod cyfryngau cymdeithasol / gwe 2.0
- Datblygu cynllun cyfathrebu sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol ac amserlen ar gyfer cyfryngau cymdeithasol sy’n bodloni anghenion eu mudiad
- Rhoi strategaethau ar waith i liniaru risgiau defnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i wneud y cysylltiadau cywir
- Defnyddio rhaglenni ‘apps’ rheoli i fod yn fwy effeithlon
- Defnyddio Twitter, Facebook, blogiau a LinkedIn yn effeithiol
I archebu lle, cliciwch yma.