Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2011

2 Maw 2011

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn am eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae Rhan 4 Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ehangu ar y cynllun statudol ar gyfer eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol a sefydlwyd dan Ddeddf 1983. Gall cleifion y mae’r rhannau o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â gofal ‘tymor byr’ yn berthnasol iddynt, a’r unigolyn hynny a dderbyniwyd i’r ysbyty yn anffurfiol (h.y. nid dan orfodaeth), ddefnyddio’r gwasanaeth.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu gwneud Rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r cynllun eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar ei ffurf fwy. Bydd hyn yn ymwneud â darparu, penodi a chymeradwyo eiriolwyr. Bydd hefyd yn nodi pa bobl y gall eiriolwyr siarad â hwy wrth fynd ati i gyflawni eu rôl yn cynorthwyo cleifion.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn am y Rheoliadau drafft hyn.