Amseroedd caled i ddod: ymateb i her tlodi yng Nghymru’r 21ain ganrif

17 Mai 2012

30 Mai, Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae WCVA a Sefydliad Bevan wedi cydweithio ar gynhadledd yma sy’n ceisio ysgogi trafodaeth ar fynd i’r afael â thlodi wrth i bobl orfod parhau i ymdopi â llai.

Wrth i Lywodraeth Cymru lansio ei Chynllun Mynd i’r Afael aˆ Thlodi, bydd y gynhadledd yn ceisio casglu syniadau ac yn trafod dulliau newydd o helpu eraill i oroesi.

Bydd Cyfranogaeth Cymru yn cynnal bwrdd fel rhan o'r sesiwn Sgwrs Caffi ar ‘Cyrraedd llais y rhai sy'n byw mewn tlodi'.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys:

  • Victoria Winckler o Sefydliad Bevan, a fydd yn trafod ‘y mynydd iaˆ tlodi’ a’r heriau i les yng Nghymru
  • Julia Unwin o Sefydliad Joseph Rowntree ar ‘heriau diffyg, demograffeg a llai o drafodaethau gyda’r cyhoedd’
  • Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth am y Cynllun Mynd i’r Afael aˆ Thlodi

Mae’r gweithdai yn cynnwys:

  • Cefnogi unigolion mewn tlodi – Buttle UK ac Ymddiriedolaeth Trussell
  • Datblygu arferion ariannol da – CredCer a’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol
  • Creu asedau cymunedol – Adfywio Cymunedol Glynchoch Cyf

Gwahoddir y cynrychiolwyr hefyd i gymryd rhan yn nhrafodaeth Caffi Clonc ar rannu syniadau newydd am dlodi, gyda’r byrddau’n cael eu noddi gan y Gronfa Loteri Fawr, Cyngor ar Bopeth Cymru, Oxfam Cymru ac eraill.

Gallwch weld y rhaglen gyfan yma, ac yna trefnu i gadw eich lle yma.