Blwyddyn Ewropeaidd ar gyfer Goresgyn Tlodi ac Allgau Cymdeithasol

10 Mai 2010

24 Mehefin, Abertawe

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal y digwyddiad yma mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyfle i chi a’r bobl yr ydych yn gweithio â hwy ddysgu mwy am yr hyn fydd yn digwydd yng Nghymru a’r DU yn ystod y flwyddyn, ac yn gyfle i rannu eich stori, profiadau a syniadau gydag eraill a thrafod materion allweddol ar yr agenda tlodi gyda phanel o westeion ac aelodau eraill o’r gynulleidfa.

Caiff canlyniadau’r diwrnod eu rhannu gyda Gweinidogion a gwneuthurwyr polisi ar lefel Cymru a’r DU a’u defnyddio fel rhan o ddigwyddiadau eraill yn y DU i gofnodi’r flwyddyn.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol:

  • Amddifadedd difrifol / niferus a’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o allgau cymdeithasol

  • Tlodi / allgau cymdeithasol ymhlith pobl o oedran gweithio

  • Pobl hyn a thlodi / allgau cymdeithasol

  • Tlodi plant

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwilio yn bennaf am bobl yn y maes, sydd wedi bod neu sydd yn gweithio gydag unigolion sydd â phrofiad o dlodi a/neu allgau cymdeithasol.

Yn ddelfrydol dylai bod pobl yn frwdfrydig dros y pwnc ac yn fodlon cymryd rhan yn y digwyddiad a chyfrannu at y trafodaethau. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i glywed eu hanesion a’u profiadau, ac mae’n gyfle iddynt hwy hefyd rannu eu safbwyntiau a’u syniadau gydag eraill mewn sefyllfa debyg, ynghyd â rhannu gyda gwneuthurwyr polisi a phenderfyniadau fel bod eu profiadau uniongyrchol hwy o effaith tlodi ar fywydau pobl yn dylanwadu ar ddatblygiadau polisi'r dyfodol yng Nghymru a’r DU.

Os ydych yn gallu helpu canfod unigolion sydd wedi neu sydd yn profi tlodi a/neu allgau cymdeithasol ac a fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan, yna hoffai Llywodraeth Cynulliad Cymru clywed ohonoch chi. E-bostiwch ChildPovertyUnit@Wales.GSI.Gov.UK os gwelwch yn dda.