Dirprwy Weinidog dros Blant yn lansio Nod Barcud newydd i gydnabod cyfranogaeth

14 Mai 2010

Fe gafodd Nod Barcud Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc – y cyntaf o’i fath yng Nghymru - ei lansio yng Nghanolfan Cefn Lea, Y Drenewydd ar ddydd Iau 13 Mai.

Fe wnaeth Uned Cyfranogiad Achub y Plant yng Nghymru cynnal cynhadledd undydd i godi ymwybyddiaeth ar sut i ddatblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc i gyfrannu tuag at benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau nhw, fel llunio polisïau, addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a hamdden.

Bydd y Nod Barcud – sy’n cynnwys llun o octopws glas – yn cael ei ddyfarnu i sefydliadau a chyrff lleol gan archwilwyr ifanc sy’n cytuno eu bod yn ymgyrraedd â’r Safonau Cenedlaethol. Crëwyd y safonau yma mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc er mwyn eu galluogi i archwilio gwaith sy’n cael ei wneud gan oedolion, ac os yw’n cyrraedd eu safonau o ran rhannu gwybodaeth, gwrando ar eu syniadau a gwneud yn siwr fod pawb yn gallu elwa o gymryd rhan.

Y siardwr gwadd yn y gynhadledd oedd Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant. Meddai: "Mae’n bwysig yng Nghymru gyfoes fod llais plant a phobl ifanc yn cael ei glywed. Mae’r Nod Barcud newydd yma yn ffordd wych i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar eu bywydau."

Yn ystod y dydd cynhaliwyd gweithdai, gyda rhai wedi eu teilwra yn arbennig ar gyfer y bobl ifanc mynychodd y digwyddiad. Bydd cyfleon hefyd i gyw-newyddiadurwyr gofnodi digwyddiadau’r dydd ar ffilm a chynnal cyfweliadau. Lansiwyd gwefan newydd sy’n egluro ac yn amlinellu y Safonau Cenedlaethol ac yn cynnig arweiniad ac adnoddau i ymarferwyr hefyd yn ystod y dydd.

Ariannir y digwyddiad yma gan brosiect ‘Creu’r Cysylltiadau’ Llywodraeth Cynulliad Cymru’ a phrosiect ‘Cyrraedd y Nod’ Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ychwanegodd Anna Skeels, Rheolwraig Uned Cyfranogiad Achub y Plant Cymru: "Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu arddangos y gwaith a wnaed gennym mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc a sefydliadau eraill dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gydag arian prosiect y Cynulliad a Chronfa Ewrop. Diolch i’r gefnogaeth hon, mae gennym yr adnoddau, y pecynnau hyfforddiant a’r strwythurau ar waith bellach i helpu cyrff lleol a chenedlaethol i weithio tuag at Nod Barcud Cyfranogiad Cenedlaethol. Yn y pen draw bydd hyn yn help i’n gwneud yn fwy atebol ac yn gwella ansawdd cyfranogiad plant a phobl ifanc yn y broses gwneud penderfyniadau yng Nghymru."

Am fwy o wybodaeth i’r wasg a lluniau, cysylltwch ag Eurgain Haf, Swyddog y Cyfryngau Achub y Plant Cymru ar 0790 993 7218 neu ebostiwch e.haf@savethechildren.org.uk.