Adolygiad o Reolau Sefydlog y Cynulliad

21 Mehef 2010

Mae Pwyllgor Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n gwahodd tystiolaeth i lywio ei Adolygiad o Reolau Sefydlog.
Mae’r Pwyllgor yn awyddus i wybod a yw ffordd y Cynulliad o weithio yn rhoi hyder i chi ei fod yn hygyrch ac yn effeithiol wrth gyflawni ei swyddogaethau, sef:

  • dwyn y Llywodraeth i gyfrif;

  • deddfu; a

  • chynrychioli pobl Cymru.

Rydym hefyd yn croesawu eich barn ar:

  • yr egwyddorion cyffredinol uchod a fydd yn sail ar gyfer yr adolygiad;

  • sut y gellir gwella trafodion a rheolau’r Cynulliad er mwyn adlewyrchu’r egwyddorion;

  • newidiadau a fyddai, yn eich tyb chi, yn gwella darpariaethau arbennig yn y Rheolau Sefydlog.

Bydd prosiect Lleisiau dros Newid Cymru WCVA yn cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau yr hoffech i ni eu cynnwys yn ein hymateb, a fyddech cystal â’u hanfon dros e-bost at vfcc@wcva.org.uk erbyn dydd Gwener 2il Gorffennaf os gwelwch yn dda.