Cefnogaeth ac ymgynghoriaeth

Gall ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau eich llethu. Efallai eich bod chi’n meddwl ‘ble ydw i’n dechrau’, ‘pwy ydw i’n ymgysylltu gyda?’, ‘sut ydyn ni’n gwneud hyn?’

Gallwn ni eich cefnogi i gynllunio, dylunio ac i ddarparu dulliau cyfranogol sydd yn cwrdd ag anghenion eich mudiad, i helpu chi i ymgysylltu â defnyddwyr eich gwasanaeth, cymunedau a dinasyddion er mwyn datblygu eich gwasanaethau i gwrdd â'u hanghenion.

Rydym yn gynnig cefnogaeth hygyrch ac unigol mewn person, dros y ffô, neu drwy e-bost. Yn dibynnu ar alw, does yna ddim tâl ar gyfer cefnogaeth tymor byr (i fyny i 2 diwrnod). Os oes angen cefnogaeth ganoldymor neu hirdymor arnoch rydym yn codi tâl ymgynghori ar gyfraddau cystadleuol ac fe fyddwn yn trafod pecyn gefnogaeth ansawdd da sydd yn cwrdd â’ch anghenion.

Cysylltwch â ni ar gyfer trafodaeth anffurfiol o’ch anghenion.