Rhwydweithiau cyfranogaeth – cefnogaeth ymarferol o gyfoedion sy’n rhad ac am ddim i ymarferwyr yng Nghymru

9 Maw 2010

Ym mis Chwefror fe wnaeth Cyfranogaeth Cymru hwyluso dau rwydwaith gyfranogi yn Ne Cymru; rhwydwaith y De Orllewin yng Nghaerfyrddin ar 17 Chwefror, a rhwydwaith y De Ddwyrain ym Mhontypridd ar 24 Chwefror. Fe gafodd y ddau ddigwyddiad eu mynychu gan amrywiaeth eang o gyfranogwyr o fudiadau o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

"Wedi ei threfnu’n dda gyda gwybodaeth dda. Buddiol ar gyfer y dyfodol" - Cyfranogwr

Fe gafodd cyfranogwyr y cyfle i gwrdd â chyfranogwyr eraill sy’n gweithio o fewn ei ardal a gwneud cysylltiadau defnyddiol. Fe wnaeth unigolion rhannu eu gwaith cyfredol a’r materion sy’n codi trwy’r sesiwn, ac fe wneir cysylltiadau ac fe wnaeth pobl drefni i gwrdd tu allan y cyfarfod er mwyn symud eu meysydd o waith ymlaen gyda'i gilydd.

Arddulliau dysgu

Network 1Fe wnaeth un o’r sesiynau archwilio i mewn i arddulliau dysgu effeithio ar sut mae pobl yn ymgysylltu. Fe wnaethom i gyd gwblhau’r arolwg arddulliau dysgu Honey a Mumford a ffeindio allan pa arddull dysgu rydym yn ffafrio, cyn meddwl amdano’r fath o weithgareddau ymgysylltu gall fod yn fwyaf addas i unigolion gydag arddulliau dysgu gwahanol. Fel grwp fe wnaethom archwilio i mewn sut mae cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn sicrhau bod cyfranogwyr i gyd yn cael y cyfle i ymgysylltu, ac fe wnaeth cyfranogwyr canfod sut gallent ddefnyddio technegau gwahanol yn y dyfodol.

"Da iawn ac yn addysgiadol. Gall fod yn grwp da iawn sydd yn tyfu mewn maint, profiad a sgiliau" – Cyfranogwr

Caffi’r byd

Network 2Mae llawer o bobl wedi clywed am ddull Caffi’r Byd, ond nid ydynt wedi profi neu redeg un. Fe wnaeth y rhwydweithiau darparu golwg ymarferol ar ddull Caffi’r Byd, gyda’r grwp yn setio i fyny ac yn rhedeg un i edrych ar y mater o ddefnyddio technoleg mewn ymgysylltiad/ymgynghori. Fe wnaeth hyn arwain i drafodaeth fywiog amdano’r cyfleoedd a’r heriau o ddefnyddio TGCh mewn gwaith ymgysylltu. Fe ddaliwyd sesiwn lawn, yna fe wnaeth y grwp gwerthuso eu profiadau o’r dull, gan drafod sut gallent eu haddasu ar gyfer eu hanghenion a sut i wneud pethau’n wahanol.

"Fe wnes i ddysgu llawer iawn, hoffais wneud y pethau ymarferol gallaf ddefnyddio" - Cyfranogwr

Rhannu problemau

Dros ginio fe wnaeth gyfranogwyr trafod eu problemau a’u profiadau, gan wahodd cyfranogwyr eraill i’w helpu drwy rannu profiadau o faterion tebyg a syniadau ar gyfer symud pethau ymlaen. Gall fod yn anodd gweithio ar wahân fel ymarferwr, ac mae’r rhwydweithiau yn darparu cyfle i rannu materion gydag ymarferwyr eraill sydd yn aml yn cael yr un profiadau, neu sydd wedi delio gyda nhw yn y gorffennol.

Network 3Mae rhwydweithiau ymarferwyr yn weithdai bywiog a chyfranogol sydd yn darparu cyfle i gymheiriaid i rannu, cefnogi ac ymgysylltu â’i gilydd.
Mae yna rwydweithiau ymarferwyr ar draws Gymru sydd yn agored i bob ymarferwr sydd wedi’i hyfforddi. Maent yn darparu cyfle amhrisiadwy i:

- Cwrdd ag ymarferwyr eraill yn eich ardal
- Rhannu ymarfer da
- Rhannu syniadau
- Datrys problemau
- Datblygu sgiliau cyfranogol
- Ennill sgiliau newydd

"Positif iawn, rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf" - Cyfranogwr

Cliciwch yma i weld y dyddiadau o gyfarfodydd sydd yn dod yn fuan. Cysylltwch â ni os hoffwch ei fynychu.

Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim a neilltuir llefydd ar sail y cyntaf i'r felin. Rydym yn edrych ymlaen at weld lawer ohono’ch yna!