Cyfleoedd Cynulliad Trydydd Sector Powys a Chyngor Cleifion Powys
13 Ion 2010Mae nawr gan Bowys Cynulliad Trydydd Sector er mwyn cryfhau llais cyfunol grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar draws y sir. Fe wnaeth y cynulliad eistedd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2009, ac mae’n gynnwys 54 aelod cynulliad o dros Bowys i gyd sydd yn cynrychioli 18 ardal o ddiddordeb sbesiffig gan gynnwys pobl hyn, iechyd meddwl ac iechyd, gofal cymdeithasol a lles.
Roedd y digwyddiad cyntaf yn gyfranogol iawn, gyda’r aelodau eu hun yn penderfynu sut byddai’n gweithio gyda'i gilydd a symud ymlaen.
Fe wnaeth day gweithdy dilyn ac fe wnaeth aelodau archwilio’r goblygiadau o’r cyfuniad arfaethedig rhwng Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys. Fe wnaeth y grwpiau hefyd penderfynu sut hoffan nhw i’r cynulliad ymgysylltu â’r broses.
Mae yna dau le ar gael ar y cynulliad ar gyfer cynrychiolwyr iechyd meddwl. Os hoffech chi gymryd rhan yna cysylltwch â PAVO ar 0845 009 32 88.
Mae Cyngor Cleifion Powys hefyd yn edrych am bobl gall sbario prynhawn y mis i wirfoddoli fel ymwelydd ward yn naill ai Shelton neu Bronllys. Mae’n dal cyfarfodydd cleifion-yn-unig rheolaidd ble bynnag cynigir gwasanaethau iechyd meddwl i breswylwyr Powys. Mae’r cyfarfodydd yn gyfrinachol ac maent yn rhoi cyfle i bobl i fynegi eu barn ar y gwasanaethau maent yn derbyn. Mae cyfleoedd hyfforddiant ar gael yn rhad ac am ddim i wirfoddolwyr ac mae treuliau yn cael eu had-dalu. Os hoffwch chi ffeindio allan mwy cysylltwch â Issy Ambler ar 01686 628300.