Bydd gan y trydydd sector swyddogaeth 'hanfodol' mewn gwasanaethau cyhoeddus, medd Gordon Brown
13 Ion 2010Mae gan y trydydd sector swyddogaeth hollbwysig i'w chwarae o ran darparu "trydedd genhedlaeth" o wasanaethau cyhoeddus wedi'u teilwra a'u siapio gan eu defnyddwyr, yn ôl y Prif Weinidog Gordon Brown. Daeth y datganiad mewn araith bwysig am bolisi ar "lywodraeth ddoethach" cyn yr adroddiad rhag-gyllidebol fis diwethaf.
Dywedodd Brown y byddai data perfformiad am wasanaethau cyhoeddus yn cael ei ddarparu ar-lein er mwyn helpu defnyddwyr a mudiadau i wneud awgrymiadau gwybodus ynghylch sut y gellid gwella darpariaeth. Dywedodd y byddai mwy o dryloywder hefyd yn caniatáu i'r gwasanaethau fod yn fwy personol a rhoi i fudiadau gwirfoddol a gweithwyr ar y rheng flaen "y rhyddid i arloesi ac i ymateb i ofynion newydd mewn ffyrdd newydd".
Dywedodd y byddai gan gymdeithas ddinesig ran hanfodol i'w chwarae yn y trefniadau newydd oherwydd bod "mentrau cymdeithasol a darparwyr dielw cydfuddiannol mor aml yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion pobl, yn enwedig rhai cymunedau anodd eu cyrraedd". Ailadroddodd fwriad y Llywodraeth i dreialu bondiau buddsoddiad cymdeithasol, a fyddai'n cyllido'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau a fyddai'n arbed arian i'r wladwriaeth yn y tymor hir, megis rhaglenni i leihau aildroseddu. Disgrifiodd y bondiau fel "arian a delir yn awr i ddelio â'r achosion wrth y gwraidd, yn hytrach na'r symptomau."
Roedd hefyd wedi addo llunio fersiwn terfynol y cynlluniau ar gyfer banc cyfanwerthu buddsoddiad cymdeithasol erbyn y Gyllideb nesaf ond nid oedd yn gallu cadarnhau sut y byddai'n cael ei gyllido. Dywedodd mai'r bwriad oedd defnyddio arian o'r cynllun asedau segur "yn amodol ar adnoddau".
Enw datganiad polisi'r Llywodraeth a ddaw gyda'r araith yw 'Putting the frontline first: smarter Government'.