Cynhadledd Symud ymlaen gyda Sgiliau Sylfaenol

9 Rhag 2009

Yn gynhadledd ‘Symud ymlaen gyda Sgiliau Sylfaenol’ a gafodd ei ddal ar 23 Medi yn Llandrindod, fe wnaeth Cyfranogaeth Cymru ymgynghori ar sut mae anghenion sgiliau sylfaenol yn fater mawr i ddinasyddion sydd wedi cael eu hallgau’n gymdeithasol, y rhwystrau maen nhw’n wynebu a sut gellir dod dros rain.

Fe gafodd anghenion gwybodaeth eu gweld fel mater pwysig, gan fod pobl sydd ag anghenion sgiliau sylfaenol yn ffeindio bod cael mynediad i wybodaeth berthnasol yn anodd ac nid oes lawer o fanylion clir ar gael. Weithiau mae hi’n anodd cysylltu gyda’r bobl gywir amdano’r materion cywir, ac mae hyn yn gwaethygu oherwydd y diffyg gwybodaeth amdano beth sydd yn digwydd yn eu cymunedau oherwydd sgiliau darllen gwael. Fe wnaeth y rhai a mynychwyd y gynhadledd cytuno bod ffyrdd arall o gyfathrebu, gwaith estyn allan a chysylltiad wyneb yn wyneb yn holl bwysig wrth ddod dros hyn. Mae angen i’r hyrwyddiad o gymorth i fod yn gliriach ac mae ffyrdd mwy creadigol o ymgysylltiad yn hanfodol. Dylai bod staff ar y llinell flaen bod yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael. Ni ddylai jargon ac acronymau byth cael eu defnyddio, a dylai bod unrhyw gyhoeddiadau yn cwrdd â chanllawiau darllenadwyedd. Dywed hefyd bod pobl ddim yn debygol o ymateb os ddefnyddir y term ‘anghenion sylfaenol’ oherwydd y stigma. Mae’r cyfryngau yn chwarae rhan yn hwn, ond gall codi ymwybyddiaeth o fewn gymunedau a chodi mae nid ei bai nhw yw hyn helpu, yn enwedig trwy’r defnydd o storiâu bywyd go iawn a delfryd ymddwyn.

Trafodwyd y diffyg darpariaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys yr angen am gyfleusterau priodol. Fe gafodd trafnidiaeth gyhoeddus well ei amlygu fel ymateb bosib, a hefyd y defnydd o gyfleusterau ‘galw heibio’ a mynd a’r ddarpariaeth i’r dysgwr.

Roedd rhai materion mynediad yn gynnwys arian a diweithdra, ble mae angen cyrsiau sydd wedi eu sybsideiddio, a hefyd cymorth gyda chost teithio. Gall rhai cyrsiau cael eu hadeiladu o amgylch cyrsiau galwedigaethol neu sgiliau sydd eisoes ganddynt. Roedd gofal plant a gofal seibiant, materion teulu neu waith hefyd yn rhwystrau bosib, sydd yn meddwl bod ymgynghoriad yn bwysig. Mae angen cyfleusterau megis meithrinfa a gofal seibiant ac mi ddylai gwersi cymryd lle o amgylch gwaith sifft neu pryd mae plant mewn ysgol. Mae yna hefyd rhwystrau diwylliannol a chrefyddol, felly mae angen grwpiau sydd wedi eu setio i fyny yn briodol, grwpiau cefnogi, cynlluniau bydi, cyrsiau unrhyw a chyrsiau sydd yn sensitif yn grefyddol.

Mae gan lawer o bobl hunan-barch, hyder a disgwyliadau isel, weithiau oherwydd profiadau gwael yn ysgol. Dylai hunan-barch cael ei godi trwy adeiladu perthnasau, gwneud pobl teimlo’n werthfawr a rhoi goliau iddynt sydd yn meddwl rhywbeth. Mae’n bwysig i fod yn hyblyg ac i gwrdd ag anghenion dysgwyr er mwyn gostwng pryder. Dylai safleoedd priodol cael eu defnyddio, gan gall bod rhai adeiladau academaidd yn fawreddog. Mae cefnogaeth un-i-un yn hollbwysig. Yn anffodus nid ydy cyllidwyr yn ffafrio hyn, felly mae angen strategaeth cyllido sydd wedi’i gydlynu. Roedd cyfathrebu da rhwng cyrff cyllido er mwyn cael cyllid cynaliadwy hefyd yn ddymunol.

Mae gan rhai pobl apathi a diffyg dealltwriaeth o’r buddion o sgiliau sylfaenol. Mae’n bwysig i adeiladu disgwyliadau, a gellir cysylltu hyn gyda hysbysiad gwell o lwyddiant. Byddai hyfforddiant gwell i diwtoriaid a gweithwyr cefnogol o help, a hefyd hyfforddiant i staff generig sydd ddim yn gweithio yn y maes ar sgiliau sylfaenol. Nid yw rhai pobl yn gweld eu bod ganddynt broblem felly mae’n anodd ymgysylltu gyda nhw, ond mae’n bwysig i baratoi am hyn ac i ddarparu cyngor a chefnogaeth.

Weithiau mae yna ddiffyg parhad mewn addysg, sydd yn meddwl bod angen cyfeirio gwell er mwyn sicrhau siwrne glir i’r cleient. Mae amgylchedd croesawgar a rhaglenni arloesol hefyd yn hanfodol, gan gynnwys sesiynau blasu a chyrsiau adeiladu hyder. Mae gwerthuso adborth yn bwysig.

O hyn i hyn nid yw asiantaethau yn gweithio gyda'i gilydd, a gall gor-asesu arwain i ddadrithiad a diffyg dilyniant i’r cleient. Fe gafodd y llifliniad o wasanaethau ei hargymell gyda mwy o gyd-weithio, a hefyd ‘pasbort’ asesiad syml er mwyn dangos i bob mudiad y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gydag asiantaethau arall.

Ar gyfer gwybodaeth bellach ar faterion cyfranogol o amgylch sgiliau sylfaenol cysylltwch gyda ni.