Goleufa Cymru - cyllid ar gyfer rownd derfynol ymgysylltu â’r cyhoedd

4 Rhag 2009

Mae Goleufa Cymru yn awyddus i dderbyn ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau bychain a fydd yn helpu i wreiddio ymgysylltu â’r cyhoedd yng ngwaith Prifysgolion. Dylai prosiectau roi sylw i un o’r pedair thema a chynulleidfaoedd targed canlynol:

  • Ein lle yn y dyfodol - pobl ifanc 14-19 mlwydd oed.
  • Iechyd a Lles - Cymunedau yn Gyntaf.
  • Hinsawdd a Chynaladwyedd - Cymunedau Gwledig.
  • Yr Hunaniaeth Gymreig yn yr 21ain Ganrif - Grwpiau Diwylliannol Lleiafrifol.

Dylai’r prosiectau ddatblygu sgiliau ysgolion neu adrannau i ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n datblygu deialog rhwng y Brifysgol a’r gymuned ehangach. Gall y prosiectau gynnwys staff a myfyrwyr academaidd ac anacademaidd. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Llun 18 Ionawr 2010. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Bruce Etherington, Ffôn: 029 2087 0094, neu Rachel Bowen, Ffôn 029 2087 6414.