Gwaith ymgynghori ac ymgysylltu ar-lein Llywodraeth Cynulliad Cymru

4 Rhag 2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn ffocysu ar hygyrchedd cyffredinol o’i weithgaredd ymgynghori ac felly mae wedi gwneud newidiadau go iawn i dudalennau ymgynghori ei wefan er mwyn gwella hygyrchedd a thryloywder.

  • Mae’r wybodaeth ym mhenawd pob ymgynghoriad nawr yn cael ei chyflwyno yn fformat clir a chyson, sydd yn gwneud yn rhwyddach i ddefnyddwyr i bori drwy wybodaeth allweddol ar ymgynghoriadau sydd ar agor neu sydd newydd gau mewn cipolwg.
  • Ar gyfer pob ymgynghoriad byw fe fyddwn yn dangos y nifer o ddyddiau sydd ar ol i ymateb ac mae yna adroddiadau crynhoi uchafbwyntiol (sydd yn cael eu diweddaru’n awtomatig) ar i) ymgynghoriadau sydd wedi cael eu hadio’n ddiweddar a ii) sydd yn cau yn fuan. Mae’r ddwy yn darparu hyperddolen i ddogfennau’r ffynhonnell.
  • Mae yna adnodd chwilio un pwrpas o fewn y tudalennau ymgynghori, sydd yn galluogi defnyddwyr i chwilio am eiriau allweddol ac mae canlyniadau yn cael eu cyfyngu i ymgynghoriadau.
  • Gallwch ymateb i ymgynghoriadau mewn amser real.
  • Mae e-cylchlythyr wedi cael ei ddatblygu sydd yn darparu crynodeb trwy e-bost o ymmgynghoriadau sydd i) wedi cael eu hadio’n ddiweddar a ii) sydd yn cau yn y saith diwrnod nesaf gyda hyperddolenni i bob ymgynghoriad sydd wedi’u cynnwys. Bydd hyn yn galluogi'r rheini sydd yn tanysgrifio i dderbyn hysbysiad o weithgaredd ymgynghori diweddar Lywodraeth Cynulliad Cymru, sydd felly yn dileu’r angen i fonitro’r wefan yn gyson.