Polisi Cyfranogaeth
Mae agwedd pobl at gyfranogi wedi newid llawer ers sefydlu Cyfranogaeth Cymru yn 2001. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, er enghraifft, wedi derbyn egwyddorion cyfranogaeth ac ymgysylltu â dinasyddion. Adlewyrchwyd hyn gan lawer o sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru sy’n credu bod cyfranogaeth defnyddwyr a chymunedau’n elfen hollbwysig yn natblygiad eu sefydliadau a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.
Adlewyrchir y newid agwedd hwn hefyd gan newid ym mlaenoriaethau nifer o wahanol gyrff a sefydliadau, megis Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth Leol, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Gwasanaeth Iechyd. Mae’r newid i’w weld mewn cynlluniau gweithredu, polisïau, adolygiadau, gwaith ymchwil a rhaglenni fel y canlynol:
- Signposts Two – putting public and patient involvement into practice - Llywodraeth Cynulliad Cymru (2003) [Saesneg yn Unig]
- Gwasanaethau Gwell i Gymru: Gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus - Llywodraeth Cynulliad Cymru (2004)
- Cyflawni'r Cysylltiadau: Gwireddu'r Weledigaeth - Ein Cynllun Gweithredu 5 mlynedd ar gyfer darparu gwell gwasanaethau i Gymru - Llywodraeth Cynulliad Cymru (2005)
- Citizen Engagement and Public Services: Why Neighbourhoods Matter – Cyhoeddwyd ar y cyd gan Gymunedau a Llywodraeth Leol a’r Swyddfa Gartref (2005) [Saesneg yn Unig]
- Cymunedau yn Gyntaf - Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Cymru well: amgylchedd naturiol Cymru yn 2010 - Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Creu Cymru Well 2006–11 - Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
- Cywiro’r cam: realiti hawliau plant yng Nghymru - Achub y Plant Cymru (2006)
- Ar Draws Ffiniau: Gwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd - Syr Jeremy Beecham (2006)
- Creu'r Cysylltiadau - Cyflawni Ar Draws Ffiniau: Gweddnewid Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru - Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006)
- Cynnwys y Cyhoedd mewn Penderfyniadau – Llais y Dinesydd - Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006)
- Creu Gwell Gwasanaethau i Gwsmeriaid – Llais y Dinesydd - Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006)
- Beyond Barriers: Identifying conditions for embedding effective public involvement - Llywodraeth Cynulliad Cymru / ORS (2007) [Saesneg yn unig]
Mae’r rhain yn dangos yr hollbwysigrwydd o ymgysylltu â chyfranogaeth yn y gymuned a gyda'r dinesydd.