Dolenni Cyswllt
Mae tîm Cyfranogaeth Cymru wedi ffeindio'r dolenni cyswllt yn ddefnyddiol iawn. Maent yn gynnwys llawer o wybodaeth amdano’r gwaith sydd yn cael ei wneud yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Achub y Plant - Oxfam – rhaglen dlodi’r DU.
Arfer Da Cymru - porth sydd yn anelu i fod y pwynt mynediad unigol at amrediad eang o arfer da sydd ar gael ar hyd a lled gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Banciau Amser y DU – yr elusen ymbarél genedlaethol. Mae’n cefnogi banciau amser ym mhob rhan o’r wlad drwy gynnig ysbrydoliaeth, arweiniad a chymorth ymarferol.
Banc Ieuenctid – Cynllun dyfarnu grantiau arloesol sy’n cael ei redeg gan bobl ifanc i bobl ifanc.
Byrddau Gwasanaeth Lleol - byrddau sydd yn annog integreiddio, cydlynu a chydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus lleol, rhanbarthol a chenedlaethol Cymru.
CEWC-Cymru – elusen addysgol sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion gweithredol yng Nghymru a’r byd.
CHANGE – sefydliad hawliau cenedlaethol sy’n cael ei arwain gan bobl anabl.
CIVICUS – corff sydd yn hybu cymuned fyd-eang o ddinasyddion gwybodus, ysbrydoledig, ac ymrwymedig sy’n awyddus i ymgymryd â’r her sy’n wynebu dynol ryw.
Mae Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn rhoi cyngor annibynnol ar ddatblygiad cynaliadwy i’r Llywodraeth ac mae’n adrodd i Brif Weinidogion y Deyrnas Unedig a Chymru. Mae ganddynt gyfres o adnoddau i’ch helpu chi ymgysylltu ar faterion datblygu cynaliadwy.
Cyllidebu Cyfranogol – yn cael ei gynnig gan yr Eglwys yn Gweithredu yn Erbyn Tlodi, â chefnogaeth Rhaglen Dlodi Oxfam yn y DU a phartneriaid eraill.
Cymdeithas Ryngwladol yr Hwyluswyr yw mudiad sydd yn gweithredu er mwyn hwyluswyr ac sydd yn annog y ddefnydd o methodolegau proses y grŵp dros y byd i gyd.
Mae Datblygu Cymunedol Cymru yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i ymarferwyr mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill lle bo hynny’n briodol.
Dopolitics – Gwefan sy’n cynnwys adnoddau ar gyfer gweinyddwyr etholiadau, gweithwyr ieuenctid a chymunedol, athrawon, ac ymarferwyr eraill sydd â diddordeb mewn annog pobl i ymwneud â gwleidyddiaeth.
Draig Ffynci – y Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru – sefydliad sy’n cael ei arwain gan gyfoedion.
Easyinfo – gwefan yn ymwneud â gwneud bywyd yn haws i bobl sydd ag anawsterau dysgu.
Hadau Newid – menter gydweithredol ddielw sy’n darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ymgyrchwyr ar lawr gwlad, cyrff anllywodraethol, mentrau cydweithredol a grwpiau a sefydliadau cymunedol eraill yn y sector cymdeithasol.
Involve – yn ceisio rhoi pobl wrth graidd y broses o wneud penderfyniadau drwy eiriolaeth, ffyrdd newydd o feddwl, gwell arferion a rhwydweithio.
Lleisiau Dros Newid Cymru yw brosiect sydd yn meithrin cyswllt rhwng mudiadau’r trydydd sector a phrosesau gwneud penderfyniadau cenedlaethol a lleol.
Participation.net – deialog fyd-eang sy’n edrych ar y cysylltiad rhwng addysg, cyfranogaeth a newid cymdeithasol.
Participedia yw’r gwyddoniadur ar-lein newydd ar wybodaeth amdano gyfranogaeth gyhoeddus, ymgysylltu â dinasyddion a grymuso cymunedau.
Pobl a cyfranogiad - Mae’r safle’n darparu gwybodaeth ymarferol i’r rhai hynny sy’n gweithio er mwyn cynnwys pobl.
Pobl yn Gyntaf Cymru – llais unedig grwpiau hunaneiriolaeth a phobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Mae wefan Profiad y Claf Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl sydd yn gweithio ym maes Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd yn y GIG yng Nghymru.
Rhwydweithiau Rhyngweithio – cynllun sy’n ceisio meithrin gallu cymunedau a sefydliadau lleol i ymgynghori a datblygu consensws yn effeithiol, i gael eu cynnwys ac i weithio mewn partneriaeth ledled y DU.
Mae’r Sefydliad Economeg Newydd yn felin 'drafod a gweithredu' annibynnol sydd yn ysbrydoli ac yn gwrthdystio lles economaidd go iawn. Mae’r wefan yma yn gynnwys amrediad eang o wybodaeth a dulliau cyfranogol.
Sefydliad Joseph Rowntree – un o’r elusennau ymchwil a datblygu mwyaf ym maes polisi cymdeithasol yn y DU.
Mae Strategaeth Gymundol Powys yn dod â nifer o fudiadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ym Mhowys ynghyd.
Tpas Cymru – y prif sefydliad sy’n ymwneud â chyfranogiad tenantiaid yng Nghymru, sy’n helpu i wneud cyfranogaeth effeithiol yn realiti.
Un Llais Cymru yw’r prif gorff ar gyfer cynghorau cymuned a thref Cymru, ac mae’n sicrhau llais cryf i gynrychioli diddordebau’r cynghorau, a darparu ystod o wasanaethau o safon i gefnogi eu gwaith.